I gael gwybod mwy am sut allwn weithio â’ch
busnes, cysylltwch â’r tîm ymgysylltu â
busnesau ar 01792 606060.
Prifysgol Abertawe
Cyfnod newydd o ragoriaeth
Mae Prifysgol Abertawe wedi profi cyfnod o dwf
rhyfeddol a'i nod yw bod yn brifysgol ymchwil
ddwys a fydd ymhlith y 30 orau yng ngwledydd
Prydain erbyn 2017, ac o fewn y 2% o brifysgolion
gorau’r byd.
Mae ein Rhaglen Datblygu’r Campws uchelgeisiol yn
un o'r prosiectau economi gwybodaeth mwyaf yn y
DU ac o fewn y 5 uchaf yn Ewrop. Mae’r datblygiadau
yn cynnwys Campws y Bae, datblygiad gwerth £450
miliwn fydd yn gartref i’r Coleg Peirianneg a’rYsgol
Reolaeth pan fydd y campws yn agor ym mis Medi
2015, ynghyd â thrawsnewid ein Campws Parc
Singleton presennol gyda ffocws ar y Gwyddorau
Bywyd a Chelfyddydau a’r Dyniaethau.
Bydd yr estyniad yn caniatáu i'r Brifysgol greu lle i
helpu i feithrin mwy o gydweithio â busnesau sy'n
awchu am wybodaeth drwy gydleoli ymchwil
academaidd a diwydiannol. Bydd hyn yn gatalydd i
dwf clystyrau technoleg uchel yn y rhanbarth drwy
ddarparu mynediad i ymchwil arloesol, cyfarpar o'r
radd flaenaf, myfyrwyr cymwys ac academyddion
sy'n adnabyddus yn fyd-eang.